Bydd 339 o swyddi yn cael eu colli yng nghanolfan trwsio awyrennau milwrol Sain Tathan, datgelwyd heddiw.
Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn Quentin Davies wrth Dŷ’r Cyffredin y byddai’r swyddi’n cael eu colli ym Mro Morgannwg cyn Mehefin 2013.
Fe allai 200 o swyddi fynd flwyddyn nesaf a’r gweddill o fewn tair blynedd wedyn.
Dywedodd Quentin Davies bod y Weinyddiaeth Amddiffyn eisoes wedi dechrau trafod gydag undebau. Bydd yr ymgynghoriad yn parhau tan 6 Ionawr.
Dywedodd y bydd cytundeb y ganolfan i gynnal awyrennau VC10 yr RAF yn dod i ben mis Rhagfyr nesaf a rywfaint o waith cynnal a chadw yn parhau tan fod y ganolfan yn Saint Tathan yn cau.
Doedd yna ddim “digon o waith newydd i gynnal niferoedd staff”, meddai.
Dyw cynlluniau ar gyfer coleg milwrol £12 biliwn yn Sain Tathan, fyddai’n creu miloedd o swyddi, heb gael eu gwireddu eto.
Cyhoeddiad ‘gwarthus’
Dywedodd Plaid Cymru bod y cyhoeddiad yn “ergyd ofnadwy ac yn newyddion drwg i gannoedd o weithwyr yn Sain Tathan”.
“Mae’r amseru, cyn y Nadolig, yn warthus,” meddai’r AS Adam Price.
“Mae Llafur yn dweud mai gwneud toriadau yng nghethrau’r dirwasgiad yw’r peth gwaethaf i’w wneud, ond dyna’n union maen nhw’n ei wneud wrth ddweud wrth 200 o weithwyr yn Sain Tathan bod eu swyddi yn mynd.
“Mae’r rhain yn swyddi da, crefftus sy’n cael eu colli oherwydd bod Llywodraeth Prydain wedi methu pobol Cymru.
“Dylai’r Weinyddiaeth Amddiffyn dalu am ail-hyfforddi’r gweithwyr a pheidio gadael i Lywodraeth y Cynulliad godi’r bil unwaith eto.”