Fe fu dyn paraplegig farw ar ôl mynd yn sownd a mygu ar declyn codi oedd wedi ei gynllunio i’w symud o amgylch ei dy, clywodd cwest heddiw.
Dywedodd y Crwner David Bowen y byddai’n ysgrifennu at Gyngor Casnewydd, wnaeth osod y teclyn, yn argymell y dylai nhw ddarparu botwm i’w wasgu mewn argyfwng i bobol anabl oedd yn defnyddio’r teclynnau heb ofalwyr.
Clywodd y cwest bod Michael Powell, 55 oed, o Stryd Bont Faen, Casnewydd, wedi colli defnydd ei goesau mewn damwain ar y ffordd yn y 70au.
Dywedodd ei frawd Nicholas bod Michael Powell yn hoffi bod yn annibynnol a bod y teclyn codi wedi ei osod yn ystafell wely ac ystafell ymolchi ei dŷ gan Gyngor Casnewydd yn 2000.
Fe wnaeth Nicholas Powell ddarganfod ei frawd yn hongian yn y teclyn codi yn ei ystafell wely ar 21 Ionawr y llynedd.
“Roedd o’n poeni’n aml am rywbeth yn mynd o’i le, mae’n rhaid i ti osod lot o ffydd mewn teclyn fel ‘na,” meddai.
Nam ar y peiriant
Dywedodd Sarah Williams, therapydd galwedigaethol o Cyngor Casnewydd, bod Michael Powell wedi gofyn am gael defnyddio’r teclyn codi heb help gofalwyr.
Ond dywedodd Jamie Davies, ymchwilydd o’r Adran Weithredol Iechyd a Diogelwch nad oedd y teclynnau codi wedi eu cynllunio i gael eu defnyddio heb help gofalwr ac felly nad oedd modd galw am gymorth.
Ychwanegodd bod nam ar y peirianwaith ar gyfer gollwng y teclyn codi mewn argyfwng a bod apwyntiad rheolaidd i sicrhau bod y teclyn codi yn gweithio’n iawn fis yn hwyr.
Roedd adroddiad yn dangos bod Michael Powell ddwywaith dros y terfyn yfed a gyrru, a fyddai wedi gwaethygu ei broblemau anadlu ar ôl iddo fynd yn sownd yn y teclyn codi.
Cyfeiriodd y crwner y rheithgor tuag at ddyfarniad o farwolaeth ddamweiniol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Casnewydd bod adolygiad eisoes yn cael ei gynnal i bobol sy’n byw ar eu pen eu hunain sy’n defnyddio’r teclynnau codi.