Fe fydd Namibia yn yr un grŵp a Chymru yng Nghwpan y Byd 2011 ar ôl curo Tunisia 22-10.

Dyma’r pedwerydd tro yn olynol i Namibia ennill eu lle yng Nghwpan y Byd, ond dydyn nhw dal heb ennill gêm yn y gystadleuaeth.

Mae hyn yn golygu bod grŵp Cymru yn gyflawn ar gyfer y gystadleuaeth yn Seland Newydd.

Yn 1993 fe wnaeth Cymru chwarae Namibia oddi cartref yn y prifddinas Windhoek gan ennill 23-38.

• Grwp A: Seland Newydd, Ffrainc, Tonga, Canada, Asia 1

• Grwp B: Lloegr, Yr Alban, Yr Ariannin, Ewrop 1, Enillydd y Gemau Ail Gyfle

• Grwp C: Awstralia, Yr Eidal, Iwerddon, Unol Daleithiau America, Ewrop 2

• Grwp D: Cymru, De Affrica, Fiji, Samoa, Namibia