Byddai rheolaeth dros dreth ar dai haf ac ail dai yn cael eu datganoli o San Steffan petai ymgais diweddaraf y Cynulliad am fwy o bwerau newydd yn llwyddiannus.

Cafodd ail LCO Tai Cynaliadwy ei lansio heddiw ar ôl i’r cynnig gyntaf disgyn yn ddarnau ar ôl cecru gyda San Steffan.

Collodd LCO y gweinidog tai Jocelyn Davies ei ffordd ar ôl anghytundeb ynglŷn â pha ddeddfwriaeth y byddai’r Cynulliad yn ei gyflwyno unwaith yr oedd ganddo’r pwerau.

“Dw i’n credu yr oedd y ddadl yn reit gul tro diwethaf ac yn canolbwyntio ar beth fyddai yn y mesur,” meddai.

“Rydw i’n edrych ymlaen at fynd at y Pwyllgor Materion Cymreig a chyflwyno’r achos ei fod o’n briodol bod y pwerau deddfwriaethol yn nwylo’r Cynulliad.”

Dywedodd bod y LCO Tai Cynaliadwy diweddaraf wedi ei lansio gyda chefnogaeth y Swyddfa Gymreig a Llywodraeth San Steffan.

Tai haf

Yn ogystal â chaniatáu i ACau basio deddfau ynglŷn â’r hawl i brynu, byddai’r gorchymyn yn caniatáu iddyn nhw basio rheolau i landlordiaid, safleoedd ar gyfer sipsiwn, digartrefedd a threth cyngor ar ail dai.

Mae Llywodraeth y Cynulliad o’r farn bod cadw ail dai yn wag am gyfnodau hir yn ystod y flwyddyn yn brifo cymunedau, “er enghraifft mewn perthynas â gwasanaethau fel ysgolion, swyddfeydd post, a siopau”.

Yn ôl y cyfrifiad diweddaraf roedd 27 ward ble’r oedd rhwng 10% a 20% o dai yn ail dai neu’n dai haf.

Fe wnaeth clymblaid y Blaid Lafur a Phlaid Cymru addo creu 6,500 o dai fforddiadwy newydd yn y cytundeb Cymru’n Un.