Mae llywydd FIFA, Sepp Blatter wedi dweud bod Cymdeithas Bêl Droed Iwerddon wedi gofyn am le ychwanegol yng Nghwpan y Byd ar gyfer eu tîm rhyngwladol.

“Yn naturiol roedd Gweriniaeth Iwerddon yn anhapus gyda’r hyn ddigwyddodd ac fe ofynnwyd am le ychwanegol”, meddai Blatter.

Daw hyn ar ôl i Weriniaeth Iwerddon fethu a sicrhau lle yn y gystadleuaeth yn Ne Affrica ar ôl colli o gôl ddadleuol yn y gêm ail gyfle yn erbyn Ffrainc.

Fe wnaeth ymosodwr Ffrainc, Thierry Henry lawio’r bêl cyn ei phasio i William Gallas gael sgorio’r gôl wnaeth anfon Ffrainc i Gwpan y Byd.

Ond mae Blatter wedi gwrthod y posibilrwydd y bydd Gweriniaeth Iwerddon yn cael lle yn y gystadleuaeth fel tîm rhif 33.

Fe fydd yr awdurdod pêl droed yn cynnal cyfarfod arbennig dydd Mercher i drafod materion a fydd yn cynnwys llawiad Henry.

Mae’r llywydd wedi awgrymu y gallai dau lumanwr ychwanegol, un tu ôl bob gôl, gael ei ddefnyddio yn y Cwpan y byd.

Mae hyn eisoes wedi cael ei brofi yng nghystadleuaeth Cynghrair Europa y tymor hwn.