Mae yna amheuon a fydd Llewod Cymru, Mike Phillips a Matthew Rees yn ffit i chwarae yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr ar 6 Chwefror.

Mae mewnwr y Gweilch yn gobeithio gwella o anaf i’w bigwrn, a wnaeth ei atal rhag chwarae dros Gymru yng nghyfres yr hydref.

Fe wnaeth Rees ddioddef anaf i’w werddyr yn erbyn Awstralia dydd Sadwrn, ac fe fydd yn cael sgan i weld pa mor ddifrifol yw’r broblem.

Mae’r asgellwr, Shane Williams hefyd yn wynebu sgan ar ôl gadael y cae wedi pum munud yn unig o’r gêm yn erbyn y Wallabies.

Mae disgwyl i Leigh Halfpenny, a anafodd ei goes yn erbyn Awstralia, ddychwelyd i chwarae’n weddol fuan.

Ond mae yna ychydig o newyddion da i Warren Gatland, sy’n disgwyl i Lee Byrne ac Adam Jones fod ‘nôl yn chwarae erbyn y gêm yn erbyn Lloegr.