Fe enillodd ffilm Gymraeg wobr am y ddrama orau yng Ngwobrau Plant BAFTA neithiwr.
Mae ‘Rhestr Nadolig Wil’, a gafodd ei gynhyrchu gan gwmni Boomerang, yn ffilm sy’n dilyn anturiaethau bachgen sy’n cwrdd â Siôn Corn ar fferm ei deulu.
Ysgrifennwyd y ffilm a’r gerddoriaeth gan y cerddorion a’r cyfansoddwyr Caryl Parry Jones a Christian Phillips, a’r cyfarwyddwr oedd Dafydd Wyn.
Mae’r cast yn cynnwys actorion adnabyddus fel Dewi ‘Pws’ Morris, John Ogwen, Ryland Teifi, Rhian Jones, Arwyn Davies a Beth Robert.
Llongyfarch
Yn ôl Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, mae Rhestr Nadolig Wil yn ffilm sy’n “llawn hiwmor a dychymyg gyda sgript a sgôr gerddorol gofiadwy.”
“Mae’r wobr bwysig hon yn gydnabyddiaeth yn y Deyrnas Unedig o ragoriaeth S4C ym maes cynhyrchu rhaglenni plant” meddai.
“Rydym yn llongyfarch pawb sydd yn ymwneud â’r cynhyrchiad hwn ar noson gofiadwy i S4C.”
Mae’r ffilm hefyd wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobrau KidScreen a fydd yn cael eu cynnal yn Efrog Newydd ym mis Chwefror 2010.
Roedd sianel deledu plant S4C, Cyw, wedi cael ei enwebu ar gyfer Sianel y Flwyddyn, ond sianel Nick Jr aeth a’r wobr yna.