Mae’r SNP wedi datgelu ei weledigaeth ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.
Lansiodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, bapur gwyn am bleidlais ar ddiwygiad cyfansoddiadol heddiw, gan ddweud “ei fod o’n bryd i’r bobol gael dweud eu dweud am ddyfodol yr Alban”.
Nod cyhoeddi’r papur 176 tudalen ar ddiwrnod Sant Andreas yw sicrhau refferendwm y mae’r SNP yn gobeithio ei weld o fewn tua 12 mis.
Ond mae’r gwrthbleidiau wedi dweud y bydden nhw’n ceisio atal y bleidlais rhag digwydd.
“Nid dyma’r amser am refferendwm,” meddai arweinydd y blaid Lafur yn yr Alban, Iain Gray.
Posibiliadau
Does yna ddim cadarnhad ynglŷn â beth fyddai geiriad y cwestiwn yn y papur gwyn, ond mae o yn gosod pedwar posibilrwydd gwahanol ar gyfer yr Alban:
• Dim newid yn y sefyllfa bresennol
• Mwy o ddatganoli fel y mae Comisiwn Calman yn ei argymell
• Mwy o ddatganoli ar ben hynny
• Annibyniaeth llawn
“Dyw’r ddadl yng ngwleidyddiaeth yr Alban ddim rhwng newid a pheidio newid – y cwestiwn yw pa fath o newid ydan ni ei eisiau a hawl y bobol i benderfynu ar eu dyfodol mewn refferendwm rhydd a teg,” meddai Alex Salmond.
Dywedodd nad oedd yr adroddiad y Comisiwn Calman, sydd wedi ei gefnogi gan Lafur, y Torïaid, a’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn mynd yn ddigon pell i ddiwallu angen y cyhoedd.
Dyw datganoli ddim yn rhoi’r grym economaidd iddyn nhw frwydro’r dirwasgiad, yr hawl i “siarad o blaid yr Alban” yn Ewrop, na chwaith y gallu i dynnu taflegrau Trident o’r Alban, meddai Alex Salmond.