Mae ystadegau yn dangos taw Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yw’r etholaeth seneddol sydd wedi dioddef y cynnydd uchaf mewn pobol yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru.

Yn ôl adroddiad ar gyfer mesur tlodi plant yn y DU, roedd 1,296 o bobol yn hawlio Lwfans Cymorth Gwaith yn yr etholaeth ym mis Medi 2009. Mae hyn yn gynnydd o 121% o’r flwyddyn cyn hynny.

Cafodd adroddiad Through Thick and Thin: Tackling Child Poverty in Hard Times ei baratoi gan yr Ymgyrch Rhoi Terfyn ar Dlodi Plant.

Tlodi plant

Mae’r adroddiad yn honni bod tlodi plant wedi gwaethygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan fod nifer y rhieni sy’n ddi-waith wedi cynyddu.

Mae’r adroddiad yn rhybuddio fod peryg y gall 2.3 miliwn o blant fod yn byw mewn tlodi yn y DU erbyn 2010, os na fydd buddsoddiad i atal hynny. Mae hyn yn fwy nag hanner miliwn uwchben amcan Llywodraeth Prydain.

Canlyniadau’r arolwg

Mae’r adroddiad yn dangos y cynnydd yn nifer y bobol sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ym mhob etholaeth seneddol yn y DU, rhwng mis Medi 2008 a Medi 2009.

Y cynnydd uchaf yng Nghymru oedd 121% yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Roedd cynnydd o 100% yn Ogwr; 93% ym Mhreseli Penfro, a 92% yn Delyn.

Twf o 31% yng Nghaernarfon oedd y cynnydd isaf.

Tabl o’r canlyniadau yng Nghymru

Etholaeth Seneddol

Nifer yn hawlio am LCG ym mis Medi 2009

Cynnydd mewn blwyddyn

Canran y cynnydd

Aberafan

1,855

790

74%

Alun a Glannau Dyfrdwy

1,889

886

88%

Blaenau Gwent

3,323

1,067

47%

Brycheiniog a Sir Faesyfed

1,101