Mae Heddlu Gwent wedi lansio ymgyrch newydd heddiw i godi ymwybyddiaeth o dreisio ac ymosodiadau rhywiol ar drothwy partïon Nadolig yn ystod y mis nesaf.
Mae’n rhan o ymgyrch cenedlaethol i rybuddio merched i amddiffyn eu hunain a hefyd i roi gwybod i’r heddlu os ydyn nhw’n cael eu treisio neu’n dioddef ymosodiad rhywiol.
Bydd plismyn yn ymweld â thafarndai a chlybiau er mwyn siarad gyda phobol ynglŷn â’r ffordd orau i osgoi ymosodiad – a hefyd i beidio â throseddu.
“Wrth i dymor partïon y Nadolig agosáu, rydym ni eisiau i bobol sy’n mynd mas gael amser da ond hefyd i gadw eu hunain yn saff,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Steven Mogg.
“Rydym ni eisiau annog pobol i fod yn ymwybodol o faint o alcohol y maen nhw’n ei yfed a meddwl ddwywaith cyn mynd adref gyda rhywun neu eu gwahodd nhw gartre.
“Pan mae alcohol ynddi, fe all pethau fynd yn aneglur neu ddryslyd. Ond does dim amwyster ynglŷn â rhyw heb ganiatâd – mae’r heddlu yn ei ystyried yn achos o dreisio.”
Arbenigwyr
Dywedodd mai dim ond 1 o bob 10 o ddioddefwyr treisio sy’n mynd at yr heddlu yng ngwledydd Prydain.
“Rydym ni eisiau tawelu meddyliau pobol ein bod ni’n cymryd treisio o ddifri ac yn ymdrechu o hyd i wella’r gwasanaeth a’r gefnogaeth yr ’yn ni’n ei roi i’r dioddefwyr,” meddai.
“Mae gyda ni uned newydd sy’n cynnwys swyddogion sy’n arbenigo mewn ymchwilio i ymosodiadau rhywiol.”