Mae pobol y Swistir wedi penderfynu gwahardd codi minaréts ar fosgiau – gan ddenu dicter Moslemiaid yn y wlad.

Mae’r grwpiau Moslemaidd wedi beirniadu’r penderfyniad gan ddweud ei fod yn rhagfarnllyd a gwrth-Islamaidd.

Dywedodd busnesau y gallai’r penderfyniad niweidio enw da’r Swistir yn rhyngwladol a chythruddo buddsoddwyr cyfoethog sydd â chyfrifon banc yno.

Roedd cefnogwyr y gwaharddiad yn dadlau bod y minaréts – neu feindyrau – yn arwydd o bŵer newydd y Moslemiaid a bod cynllun ar droed i droi’r wlad yn wladwriaeth Islamaidd.

Fe gafodd y gwaharddiad ei gymeradwyo gan 57.5% o’r 2.67 miliwn o bleidleisiodd.


Ffoaduriaid

Mae tua 6% o boblogaeth y wlad yn Foslemiaid, nifer ohonyn nhw’n ffoaduriaid o ryfeloedd Iwgoslafia yn yr 1990au.

“Mae newid cyfansoddiadol sy’n targedu un gymuned grefyddol yn ffiaidd,” meddai Mohammed Shafiq, prif weithredwr Sefydliad Ramadan i bobol ifanc yng ngwledydd Prydain.

Mae’n debyg mai dim ond pedwar minarét sydd yn y wlad ar hyn o bryd, ac na fydd yr un ohonyn nhw’n cael ei effeithio gan y gwaharddiad.