Perfformiad Caerdydd yn yr ail hanner yn erbyn Ipswich oedd y gwaetha’ iddo’i weld hyd yma, meddai’r rheolwr, Dave Jones.

Doedd dim un penderfyniad iawn wedi’i wneud, meddai, wrth i dîm y brifddinas golli eu trydydd gêm o’r bron yn y Bencampwriaeth.

“Roedd hi’n gêm na ddylen ni fod wedi ei cholli,” meddai Dave Jones. “Dyna’r perfformiad gwaetha’ yr ydw i wedi ei weld yma.”

Roedd Caerdydd wedi mynd ar y blaen ar ôl hanner awr trwy foli gan Peter Whttingham ond, ar ôl hynny, Ipswich oedd gryfa’.

Fe ddaethon nhw’n gyfartal ar ôl 72 munud ac yna fe enillon nhw’r gêm gyda phedwar munud yn weddill.

Cyn ddoe, roedd Ipswich yn ail o’r gwaelod a Chaerdydd yn dal i bwyso am ddyrchafiad.