Fe fydd Llywodraeth yr Alban yn ystyried rhoi gofal henoed yn nwylo’r Gwasanaeth Iechyd.
Fe allai greu diddordeb yng Nghymru, sy’n wynebu’r un math o drafferthion o ran cynnig gwasanaeth a rheoli gwario.
Pe bai’r cynnig yn cael ei dderbyn, fe fyddai Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn cael ei greu – fan lleia’ fe fydd disgwyl i gynghorau lleol weithio’n glosiach gyda’r Gwasanaeth Iechyd.
Yn ôl y dyn y tu cefn i’r syniad, yr Arglwydd Sutherland, fe fyddai’r gwasanaeth canolog yn cael gwared ar yr angen i bobol fynd i dri gwahanol le i chwilio am gymorth.
Addysg hefyd?
Yr wythnos ddiwetha’ roedd un o weinidogion Llywodraeth yr SNP wedi awgrymu trefn newydd o ran addysg hefyd, wrth i gynghorau fethu â chyrraedd targedi o ran maint dosbarthiadau a nifer athrawon.
Y ddadl yw bod gormod o adrannau gyda phob cyngor â’u cyfarwyddwyr eu hunain ym mhob maes; fel yng Nghymru, mae nifer yr ymddiriedolaethau iechyd wedi ei dorri – yn achos yr Alban, o 32 i 14.
Mae cymdeithas y cynghorau sir yn yr Alban a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhuddo’r SNP o geisio dinistrio llywodraeth leol.