Mae heddlu yn nhalaith Washington yn yr Unol Daleithiau wedi enwi dyn y maen nhw’n chwilio amdano ynglŷn â llofruddiaeth pedwar plismon.

Maen nhw’n dweud fod ganddyn nhw “ddiddordeb” mewn siarad gyda Maurice Clemmons, 37 oed, sydd â record hir o droseddu a thrais.

Er hynny, mae’n rhy gynnar i ddweud a yw dan amheuaeth bendant am saethu’r pedwar mewn caffi. Yn ddiweddar, roedd wedi cael ei arestio a’i gyhuddo o ymosod ar blismon a threisio plentyn.

Roedd y digwyddiad yn debyg i ddienyddiad, meddai llefarydd ar ran heddlu’r ardal. Roedd dyn wedi cerdded i mewn i gaffi lle’r oedd y pedwar yn eistedd, wedi mynd at y cownter a throi’n ôl a saethu atyn nhw.

Mae’n ymddangos bod un o’r pedwar wedi llwyddo i ymladd rhywfaint ac wedi saethu o leia’ unwaith. Roedden nhw yn y caffi ychydig wedi wyth y bore, yn gwneud gwaith papur ar eu cyfrifiaduron.

Does gan yr heddlu lleol ddim amheuaeth bod yr ymosodiad wedi ei gynllunio.

Llun: Y caffi lle digwyddodd y saethu (AP Photo)