Mae disgwyl y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi heddiw eu bod yn anfon 500 yn rhagor o filwyr i Afghanistan.

Y gred yw y bydd Gordon Brown yn dweud fod tri amod oedd wedi eu gosod ganddo wedi cael eu cwrdd, gan gynnwys sicrhau digon o offer i’r milwyr.

Roedd hefyd eisiau sicrwydd y byddai Llywodraeth Afghanistan yn hyfforddi rhagor o filwyr a phlismyn ac yn ymladd llygredd gwleidyddol – fe fydd cynhadledd ryngwladol gydag Arlywydd Afghanistan i drafod hynny ym mis Ionawr.

Y trydydd amod oedd mwy o gyfraniad gan wledydd eraill – mae’r Llywodraeth yn ffyddiog y bydd gweddill gwledydd cynghrair NATO yn anfon cymaint â 5,000 o filwyr ychwanegol yno.

Fe fyddai’r lluoedd ychwanegol yn codi nifer milwyr Prydain yn Afghanistan i 9,500 a’r milwyr rheng-flaen o 2,000 i 2,500.

Ddydd Iau, fe fydd Gordon Brown yn cyfarfod â Phrif Weinidog Pacistan ac mae disgwyl iddo alw am ragor o ymdrech i ddal arweinwyr al Qaida yn y mynyddoedd rhyngddi hi ac Afghanistan.