Mae dau ddyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 21 oed yng Nghaergybi yn ystod oriau mân y bore.
Cafodd yr heddlu eu galw i Tan yr Efail, Caergybi, am 12.11 wedi adroddiadau fod dyn wedi cael ei anafu’n ddifrifol.
Aethpwyd ag ef i Ysbyty Gwynedd lle bu farw’n ddiweddarach.
Cafodd y ddau ddyn eu harestio fore heddiw yn ardal Bae Colwyn.
Mae’r heddlu’n apelio ar i dystion gysylltu â nhw ar 0845 6071001 (llinell Gymraeg) neu 0845 6071002 (llinell Saesneg), neu Crimestoppers ar 0800 555 111.