Mewn refferendwm yn y Swistir heddiw, mae pleidleiswyr y wlad wedi cefnogi mesur i wahardd codi tyrau minarets ar fosgiau.

Roedd 1,534,054 (57.5%) o’r pleidleiswyr o blaid y cynnig, o gymharu â 1,135,108 (42.5%) yn erbyn.

Roedd y rhai y tu ôl i’r mesur yn honni bod minarets yn symbolau o Islam milwriaethus, ac fe wnaethon nhw chwarae ar bryderon ynghylch y cynnydd yn y boblogaeth Fwslimaidd yn Ewrop dros y blynyddoedd diwethaf. 

Ar y llaw arall, fodd bynnag, mae ofnau hefyd y bydd y bleidlais heddiw yn ennyn adwaith ffyrnig mewn gwledydd Mwslimaidd, ac y bydd Mwslimiaid cyfoethog sy’n bancio, siopa a mynd am wyliau i’r Swistir yn troi cefn ar y wlad.