Mae Gordon Brown yn galw ar lywodraeth Pacistan i ymladd yn galetach yn erbyn rhwydwaith terfysgwyr al Qaida a “chael gwared” ar ei arweinwyr Osama bin Laden ac Ayman Zawahiri.

Mae sylwadau’r Prif Weinidog yn dangos rhwystredigaeth cynyddol ynghylch methiant Pacistan, wyth mlynedd ar ôl yr ymosodiadau 11 Medi yn America, i ddal y rhai sy’n gyfrifol – y gred yw eu bod nhw’n cuddio yng ngogledd y wlad.

Galwodd ar fyddin a gwasanaethau cudd Pacistan, yn ogystal ag arweinwyr gwleidyddol y wlad, i herio al Qaida yn uniongyrchol yn eu cadarnleoedd yn Ne Waziristan ger y ffin ag Afghanistan, a “thorri” eu rhwydwaith.

Er bod tua 30,000 o filwyr Pacistan wedi cael eu hanfon i Dde Waziristan i herio’r Taliban, mae Gordon Brown yn awyddus i’w gweld nhw’n targedu arweinwyr al Qaida, sydd wedi dianc o afael lluoedd rhyngwladol.

“Rhaid i Pacistan allu dangos eu bod nhw’n gallu trechu al Qaida, sy’n fygythiad i Pacistan ac i bobl Pacistan yn ogystal â gweddill y byd,” meddai Gordon Brown.

“Mae cynnydd wedi cael ei wneud. Mae 30,000 o filwyr Pacistan ar ffiniau De Waziristan, ond ar ôl wyth mlynedd mae angen mwy o gynnydd yn yr ymdrech i gael gwared ar y ddau o bobl sy’n arwain al Qaida, sydd wedi gwneud cymaint o ddifrod ac sy’n amlwg y tu ôl i gymaint o’r ymosodiadau sy’n anelu ar Brydain.”

Bydd Gordon Brown yn cyfarfod Prif Weinidog Pacistan, Raza Gilani, i drafod y materion hyn pan ddaw ar ymweliad â Stryd Downing ddydd Iau.

Adroddiad damniol

Mae sylwadau’r Prif Weinidog yn dilyn adroddiad damniol gan Senedd America sy’n dweud fod Osama bin Laden o fewn cyrraedd milwyr America ym mynyddoedd Tora Bora ym mis Rhagfyr 2001.

Yn ôl yr adroddiad, canlyniad y methiant i ladd neu ddal bin Laden bryd hynny oedd cryfhau’r gwrthryfela yn Afghanistan heddiw a gwaethygu’r helyntion mewnol sy’n peryglu Pacistan ar hyn o bryd.

Cafodd yr adroddiad ei baratoi gan Bwyllgor Cysylltiadau Tramor y Senedd, ar gais ei gadeirydd John Kerry, ymgeisydd y Democratiaid am arlywyddiaeth y wlad yn 2004.

Mae John Kerry wedi dadlau’n gyson fod llywodraeth George W Bush wedi colli cyfle i ddal bin Laden a’i brif ddirprwyon pan oedden nhw’n cuddio yn ardal fynyddig dwyrain Afghanistan dri mis ar ôl yr ymosodiadau yn Efrog Newydd.

Mae’r adroddiad yn feirniadol iawn o’r ysgrifennydd amddiffyn ar y pryd, Donald Rumsfeld a’i gadlywydd militaraidd Tommy Franks.

“Mae’r methiant i ddal bin Laden yn gyfle a gollwyd ac wedi newid cwrs y gwrthdaro yn Afghanistan a dyfodol terfysgaeth rhyngwladol,” meddai’r adroddiad.

Pan oedd bin Laden yn cuddio yn Tora Bora byddai America wedi gallu anfon miloedd o filwyr ar ei ôl, ond ni wnaed dim i’w rwystro rhag cerdded dros y ffin i ardal o Pacistan sydd y tu allan i reolaeth y llywodraeth.

Roedd Donald Rumsfeld wedi mynegi pryder ar y pryd y gallai presenoldeb rhy fawr o filwyr America arwain ar adwaith yn eu herbyn.