Mae o leiaf 90 o bobl wedi marw ar ôl i gwch cludo coed suddo ar lyn yng ngweriniaeth Congo yng nghanolbarth Affrica.

Yn ôl un o’r rhai a oroesodd, roedd dwsinau o gyrff ar hyd y tywod ar lannau Llyn Maindome, sydd 250 o filltiroedd i’r gogledd-ddwyrain o’r brifddinas, Kinshasa.

Mae adroddiadau nad oedd cofrestr o deithwyr gan nad oedd hawl gan y cwch cludo coed i gludo teithwyr.

Yn ôl Croes Goch y Congo, cafodd mwy na 250 o bobl eu hachub ar ôl y suddo nos Fercher.

Mae’r Congo’n wlad fawr o jyngl ac afonydd anferth lle nad oes fawr mwy na 300 milltir o ffyrdd wedi eu palmantu. Mae’n well gan lawer o bobl deithio mewn cychod hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gallu nofio.