Bydd gwasanaeth trên newydd yn cysylltu dau hanner tref Workington, Cumbria, o yfory ymlaen.

Ar ôl y llifogydd yr wythnos diwethaf mae’r pontydd ffyrdd naill ai wedi dymchwel neu wedi gorfod cau, sy’n golygu mai pont y rheilffordd yw’r unig ffordd i groesi afon Derwent am 17 milltir.

Bydd yr holl wasanaethau trên, a fydd yn rhedeg bob awr, rhwng Workington, yr orsaf newydd dros dro i’r gogledd o’r afon (a elwir Gogledd Workington), Flimby a Maryport am ddim tan ddiwedd y flwyddyn.

Daw’r trên ychwanegol fel rhan o becyn cymorth gan y Llywodraeth i gysylltu dau hanner y dref ar ôl dinistr y llifogydd. Meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth Sadiq Khan:

“Bydd yr arian ychwnaegol yn darparu mwy o wasanaethau trên ac yn galluogi pobl i ddefnyddio’r gwasanaeth yma am ddim. Dw i’n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn helpu pobl Workington.”

Llun: Gweithwyr wrthi’n gosod platfform ar gyfer yr orsaf newydd dros dro yng ngogledd Workington (Dave Thompson/PA Wire)