Mae lluoedd diogelwch yn Rwsia yn dweud eu bod yn sicr bellach mai terfysgwyr a achosodd ddamwain drên rhwng Moscow a St Petersburg.
Fe gafodd o leia’ 26 o bobol eu lladd yn hwyr nos Wener ar y Nevsky Express ac mae ymchwilwyr yn dweud bod olion ffrwydrad i’w weld wrth ochr y rheilffordd.
Yn ôl llefarydd, roedd hi’n ymddangos bod bom cartref wedi ei gosod yno, a honno’n cyfateb i tua 15 pwys o TNT. Roedd teithwyr hefyd yn dweud eu bod wedi clywed clec.
Os yw’r ddamcaniaeth yn gywir, dyma’r ymosodiad terfysgol mwya’ o fewn Rwsia ei hun ers rhai blynyddoedd.
Fe fydd y bai yn sicr o gael ei roi ar ymgyrchwyr o un o wledydd y Caucasus, lle mae brwydro wedi bod yn Chechnya a rhai o’i chymdogion.
Roedd mwy na 600 o deithwyr ar y trên moethus, a hwnnw’n mynd tua130 milltir yr awr pan daflwyd y tri cherbyd ola’ oddi ar y cledrau.
Fe fydd y trên hwn yn cael ei ddefnyddio gan rai o uchel-swyddogion llywodraeth Rwsia – un esboniad posib am yr ymosodiad.
Llun: AP Photo