Roedd yna anhrefn yn wynebu miloedd o gefnogwyr rygbi neithiwr wrth i signalau fethu ar y rheilffordd rhwng Casnewydd a Chaerdydd.

Ar un adeg, roedd tua 10,000 o gefnogwyr yn aros am drenau, gyda dim ond gwasanaeth ysbeidiol rhwng y ddwy ddinas.

Roedd cyhoeddiad wedi ei wneud cyn diwedd y gêm rhwng Cymru ac Awstralia yn rhybuddio teithwyr tua’r dwyrain i chwilio am ateb arall.

Yn ôl cwmni Network Rail, roedd y problemau wedi dod i’r amlwg ychydig cyn saith o’r gloch y nos ac roedd peirianwyr wedi bod yn gweithio mewn tywydd mawr i geisio datrys y broblem.

Roedd honno wedi codi gyda signalau mewn lle o’r enw Pengam, meddai llefarydd, ac roedd y cwmni’n ymddiheuro am unrhyw broblemau.