Mae Hwlffordd wedi curo’r Rhyl ar faes Belle Vue am y tro cyntaf mewn deg mlynedd wrth i bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru golli ei gêm gartref gyntaf o’r tymor.
Fe wnaeth y Rhyl fynd ar y blaen wedi chwarter awr o’r gêm gyda gôl gan yr amddiffynnwr Greg Strong.
Ond wedi awr o’r ail hanner, fe wnaeth Hwlffordd daro nôl gyda Bobby Briers a Robbie Walters yn sgorio dwy gôl o fewn munud i’w gilydd.
Mae’r golled yn golygu bod y Rhyl wedi disgyn tri phwynt tu ôl i Lanelli a’r Seintiau Newydd ar frig y tabl.
Fe wnaeth Llanelli a’r Seintiau Newydd ennill 4-0 yn eu gemau hwy neithiwr – y naill yn curo Aberystwyth a’r llall yn trechu Caersws.
Dyma oedd colled gyntaf Aberystwyth ers i Alan Morgan gael ei benodi’n rheolwr, ac mae tymor siomedig Caersws yn parhau ar waelod y tabl.
Fe wnaeth y Bala wneud cychwyn perffaith i’r gêm yn erbyn Caerfyrddin, gyda Ross Jeffries yn sgorio wedi pedair munud. Ond yn ôl ddaeth Caerfyrddin gyda thair gôl mewn ugain munud – dwy gan Tom Hicks â Danny Thomas yn ychwanegu’r drydedd i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Fe gafodd y gêm rhwng Castell-nedd a Phrestatyn ei gohirio oherwydd cyflwr y maes, gyda llai ‘na hanner awr cyn bod y gêm fod i gychwyn. Methodd y Drenewydd a Phort Talbot chwarae hefyd oherwydd effaith y tywydd ar faes chwarae Parc Latham.