Mae wyth Prydeiniwr yn dod ag achos llys yn erbyn parc saffari yn Ne Affrica ar ôl i’w car droi drosodd a chael ei amgylchynu gan braidd o lewod.

Digwyddodd y ddamwain ym mis Mawrth 2007, yn Sanbona Wildlife Reserve, sydd i’r gogledd ddwyrain o ddinas Cape Town.

Mae’r Prydeinwyr yn hawlio £582,000 am y cyflogau y maen nhw wedi eu colli a biliau meddygol.

Maen nhw’n dweud eu bod wedi dioddef anafiadau corfforol a phryder-wedi-trawma oherwydd “agwedd fygythiol y llewod”.

Yn ôl papur newydd y Times, mae dogfennau sydd wedi eu cyflwyno yn Uchel Lys Cape Town yn dweud fod y Prydeinwyr yn beio gyrrwr y cerbyd am eu hanafiadau.

Maen nhw’n dweud fod y gyrrwr wedi troi’r cerbyd drosodd wrth yrru am yn ôl oddi wrth y llewod. Fe fydd y parc yn ymladd yr achos.