Mae Archesgob Caergrawnt, y Cymro Rowan Williams, wedi cyrraedd Rhufain am ei drafodaethau cyntaf gyda’r Pab ers i’r Fatican wahodd Anglicaniaid i ymuno â’r eglwys Gatholig.
Roedd ymweliad tri diwrnod Rowan Williams ei drefnu cyn i’r Fatican gynnig derbyn Anglicaniaid traddodiadol sy’n anhapus gydag ordeinio merched ac esgobion hoyw.
Dywedodd y Fatican ei bod yn ymateb i ddymuniadau Anglicaniaid wrth greu’r polisi newydd. Ond mae gwahoddiad y Pab wedi rhoi straen ar y berthynas rhwng y ddwy Eglwys.
Roedd y Gymundeb Anglicanaidd – sydd â 77 miliwn o bobol – eisoes mewn peryg o rwygo cyn i’r Fatican gyhoeddi ei pholisi newydd. Mae Rowan Williams ei hun yn cael ei weld yn rhyddfrydwr.
Fe fydd yr ymweliad yn dechrau gyda darlith a’r Archesgob yn cyfarfod â’r Pab ddydd Sadwrn.