Mae Craig Bellamy wedi dweud ei fod yn pryderu y bydd ei yrfa yn dod i ben yn y ddwy flynedd nesaf.

Mae ymosodwr Cymru a Man City, sy’n 30 oed, wedi dioddef cyfres o anafiadau yn ystod ei yrfa, yn bennaf i’w bengliniau.

Mae capten Cymru yn teimlo bod diwedd ei yrfa ar y gorwel oherwydd yr anafiadau ac fe fydd ei ddatganiad diweddara’n codi rhagor o ofnai am ei ddyfodol rhyngwladol.

“Fydda’ i ddim yn gallu chwarae am bedair neu bum mlynedd arall oherwydd yr anafiadau yr ydw i wedi eu dioddef,” meddai. “Efallai dwy flynedd ar y mwyaf. Fe ddaw popeth i ben yn gyflym.”

Clwb cyn Cymru

Roedd Bellamy yn absennol ar gyfer gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn yr Alban y penwythnos diwethaf oherwydd anaf – er iddo hedfan allan i Abu Dhabi gyda charfan Man City.

Mae hefyd wedi dweud yn ddiweddar y byddai rhaid iddo ystyried yn ofalus pa gemau y byddai’n gallu chwarae dros Gymru yn y dyfodol, pe bai Man City yn ennill eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Mae Bellamy yn gwadu ei fod yn bwriadu ymddeol o’r gêm ryngwladol.