Mae tîm golff Cymru wedi cipio coron Ewrop gyda buddugoliaeth ym mhencampwriaeth y PGA yn Sbaen.
Roedd timau Cymru a Lloegr yn arwain y gystadleuaeth ar ddechrau’r rownd olaf ar gwrs golff Roda ym Murcia.
Ond y Cymry a orffennodd gryfa’ gan orffen y bencampwriaeth un ergyd ar bymtheg yn well na’r safon.
Roedd Lloegr yn gydradd ail gyda’r Swistir- dair ergyd y tu ôl i Gymru.
‘Rownd siomedig’
Roedd yna dri aelod yn y tîm, sef Jason Powell, Andrew Barnett a’r capten James Lee.
Fe gafodd y capten rownd olaf siomedig o ddwy ergyd dros y safon. Ond fe wnaeth Powell sgorio rownd o dair ergyd yn well na’r safon, gyda Barnett ddwy ergyd yn well.
“Fe wnaeth Jason ac Andrew fy helpu heddiw,” meddai’r capten James Lee. “Er fy mod ychydig yn siomedig gyda fy mherfformiad personol, rwy’n hapus iawn gyda’r fuddugoliaeth.
“Mae wedi bod yn flwyddyn dda ac mae hyn yn wych i Gymru. Mae’n gwneud yn iawn am golli i Awstria ddwy flynedd yn ôl.”