Fe fu saith yn rhagor o bobol farw yn ystod yr wythnos ddiwetha’ yng Nghymru ar ôl dal ffliw moch.

Mae cyfanswm y rhai sydd wedi marw ar ôl dechrau dioddef o’r salwch wedi codi i 21, gydag un arall wedi marw dramor.

Daw’r cynnydd er gwaetha’r ffaith bod nifer y bobol sy’n cael eu hamau o fod â’r salwch wedi disgyn i 36 achos ym mhob 100,000 o bobol, o 65.8 yn yr wythnos ganlynol.

Fe wnaeth 1,350 o bobol gysylltu â’u meddyg teulu gyda symptomau ffliw dros y saith diwrnod diwethaf. Y categori amlyca’ oedd plant rhwng blwydd a phedair oed

Mae’r Llywodraeth wedi cytuno i ganolbwyntio ar frechu plant dan bump oed yn ail gymal y brechu am mai nhw sy’n dioddef fwya’ o’r ffliw.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad Cymru nad oedd modd iddyn nhw ddweud eto pryd y byddai’r ail gymal yn dechrau.

Y drefn frechu

“Mae plant ifanc yn fwy tebygol o daenu’r afiechyd sy’n golygu bod mwy o blant yn mynd yn sâl,” meddai Prif Swyddog Meddygol Cymru Tony Jewell.

“Bydd ail gymal y rhaglen frechu yn dechrau’n fuan, unwaith y mae’r cymal cyntaf – i’r bobol fwya’ bregus – yn dod i ben.

“Bydd meddygon teulu yn cysylltu gyda rhieni yn ei gwahodd i gael brechu eu plant cymwys.”

Dywedodd bod nifer o’r bobol fu farw o ffliw moch yr wythnos hon “wedi bod yn ddifrifol wael ers amser hir”.