Fe fydd y Crusaders yn dechrau tymor newydd y Super League yn erbyn Leeds Rhinos ar y cae Ras yn Wrecsam.
Mae clwb rygbi’r gynghrair de Cymru wedi gollwng yr enw ‘Celtic’ o’u henw ar gyfer y tymor newydd.
Fe fydd wynebu’r pencampwyr yng ngêm agoriadol y tymor yn her enfawr i’w hyfforddwr newydd, Brian Noble ynghyd ac Iestyn Harris sy’n cynorthwyo.
Dyma fydd y tro cyntaf i’r Crusaders chwarae yn Wrecsam. Y tro diwethaf i Wrecsam gynnal gêm rygbi’r gynghrair oedd pan gollodd Cymru 33-42 i Loegr yn 2001.
Bydd y gêm cael ei chynnal ar 29 Ionawr – wythnos cyn i’r tymor ddechrau’n llawn, oherwydd bod Leeds yn cystadlu yn erbyn Melbourne Storm yng Nghwpan Her y Byd ar y dyddiad gwreiddiol, 28 Chwefror.
Fe fydd y Crusaders yn chwarae mwyafrif eu gemau yn Rodney Parade yng Nghasnewydd yn ystod y tymor nesaf, yn hytrach na Chae’r Bragdy, Pen-y-bont.