Mae penaethiaid pêl-droed Gweriniaeth Iwerddon wedi gwneud cwyn swyddogol wrth y corff rhyngwladol, FIFA, yn dilyn y gêm ail-gyfle ddadleuol yn erbyn Ffrainc neithiwr.
Mae amddiffynnwr Gweriniaeth Iwerddon, Richard Dunne yn credu eu bod nhw wedi eu “twyllo” allan o le yng Nghwpan y Byd yn Ne Affrica’r haf nesaf ar ôl i flaenwr Ffrainc, Thierry Henry, lawio’r bêl cyn croesi am y gôl dyngedfennol.
“Mae’n siŵr y bydd FIFA yn hapus,” meddai Dunne ar ôl i Iwerddon golli 2-1 mewn amser ychwanegol. “Unwaith eto mae’r penderfyniadau mawr yn mynd o blaid y timau mawr.”
Roedd dirprwy reolwr Iwerddon, Liam Brady, hefyd yn honni bod y dyfarnwr wedi dod dan bwysau i gefnogi’r wlad fwy.
Roedd penderfyniad FIFA i wneud Ffrainc, Portiwgal, Rwsia a Groeg yn ddetholion ar gyfer y gemau ail gyfle yn dangos eu dymuniad i roi pob cyfle posib i’r timau mawr gyrraedd De Affrica’r haf nesaf.
Technoleg
Mae Dunne wedi galw am y defnyddio camerâu i helpu’r timau dyfarnu benderfynu a ddylai goliau dadleuol fod yn gymwys.
Mae prif weithredwr Cymdeithas Chwaraewyr Pêl Droed Proffesiynol, Gordon Taylor, hefyd wedi galw am gamerâu i’w cael eu defnyddio yn ystod gemau.
“Mae’r amser wedi dod i ddechrau defnyddio camerâu i wneud yn siŵr bod y penderfyniad cywir yn cael ei wneud.”
Siom
Er i’r ymwelwyr brotestio’n ffyrnig wrth y dyfarnwr, Martin Hansson, fe gafodd y gôl ei chaniatáu.
Mae FIFA eisoes wedi gwrthod yr awgrym y dylai’r gêm gael ei hail chwarae ond fe alwodd hyfforddwr Iwerddon am eglurhad sut oedd dyfarnwyr yn cael eu dewis i gemau mawr.
“Dyma siom fwyaf fy ngyrfa,” meddai Giovanni Trappatoni (dde). “Fe gafodd y dyfarnwr amser i holi’r llumanwr a Henry.
Fe alwodd hefyd am newid y drefn gydag amser ychwanegol mewn gornestau dau gymal, rhag bod y tîm cartre’ yn yr ail gymal – fel Ffrainc- yn cael mantais pan fydd amser ychwanegol.
Ac yn Sweden hefyd
Mae’r dyfarnwr o Sweden, Martin Hansson wedi cael ei feirniadu’n hallt am ei benderfyniad yn ôl yn ei famwlad hefyd.
Mae papur newydd Aftonbladet wedi beio Hansson a’r llumanwyr oedd hefyd o Sweden, gan alw am sicrwydd na fyddan nhw’n cael cyfrifoldeb am gêm ryngwladol arall.
“Mae tua 80 miliwn o Wyddelod ar draws y byd a gallwn ni warantu eu bod yn teimlo’n wael heddiw,” meddai’r stori yn y papur newydd.
“Ond rwy’n yn gobeithio fod yna dri dyn o Sweden sy’n teimlo’n waeth, sef Martin Hansson, Stefan Wittberg a Fredrik Nilsson.”
Cyfaddef
Mae Thierry Henry wedi cyfaddef i’r wasg ei fod wedi llawio’r bêl, ond ychwanegodd mai cyfrifoldeb y dyfarnwr oedd penderfynu a oedd y gôl yn gymwys ai peidio.