Ar ôl naw mlynedd, pedair cryno ddisg ac enwogrwydd trwy’r byd, mae Ann Atkinson, arweinydd Côr Meibion Froncysyllte yn gadael i “chwilio am sialensiau personol newydd”.

“’Dw i wedi gweithio’n galed â’r Côr ac maen nhw wedi llwyddo. Dw i eisiau canolbwyntio ar bethau eraill rŵan,” meddai.

Fe ddaeth y cyhoeddiad wrth i’r côr gyhoeddi eu pedwerydd cryno ddisg ddydd Llun – Voices of the Valleys: Memory Lane.

Mae hwnnw’n dilyn y disgiau eraill a wnaeth Gôr y Fron o dan arweinyddiaeth Ann Atkinson yn un o’r rhai mwya’ llwyddiannus erioed, gan baratoi’r ffordd i rai mwy diweddar fel Only Men Aloud.

Ffilm

Mae yna hyd yn oed sôn am ffilm amdanyn nhw ar ôl i reolwr y band pop Blue eu clywed yn canu mewn priodas a threfnu cytundeb recordio gyda chwmni mawr Universal.

O fewn dim, roedden nhw ar frig y siartiau, wedi cael disg blatinwm am werthu 300,000 o gopïau ac yn recordio fersiwn newydd o Two Little Boys gyda Rolf Harris.

“Fe fydd Dydd Llun yn ddiwrnod emosiynol dros ben. Mae’n mynd i fod yn anodd iawn ffarwelio,” meddai’r arweinydd wrth Golwg 360.

Mae’r albwm newydd yn cynnwys amrywiaeth o glasuron gan gynnwys Lisa Lân, ‘Tangnefeddwyr’ Eric Jones ac alawon fel Little Welsh Home.

Erbyn hyn, maen nhw wedi cael yr enw o fod yn ‘boy band’ gydag oedran ar y cyd o 4,000 o flynyddoedd.

“Posibiliadau” a “meddwl agored”

Dywedodd Ann Atkinson, sy’n gantores glasurol hefyd, y byddai’n hoffi recordio ei chryno ddisg ar ei phen ei hun, neu gyda Kevin Sharp ei gŵr sydd yn ganwr arall.

“Mae yna gymaint o bosibiliadau mewn gwirionedd. Mae sefydlu côr arall yn bosibilrwydd hefyd – dw i’n hollol agored fy meddwl,” meddai.

Un o uchafbwyntiau Côr Meibion Froncysyllte yn ôl Ann Atkinson oedd ennill cystadleuaeth yng Ngŵyl Gerdd Harmony yn yr Almaen. “Roedd hynny’n uchafbwynt heb os, roedd safon y canu’n uchel iawn yno,” meddai.

“Mae’r Côr wedi fy nhrin i’n dda iawn,” meddai Ann Atkinson.

Canu yn y gwaed

Fe gafodd Ann Atkinson ei magu yng Nghorwen. Dechreuodd ei gyrfa fel athrawes ac yn fuan wedyn aeth i’r Coleg Cerdd Frenhinol i astudio Canu yn Llundain.

Fe berfformiodd gyda sawl cwmni opera Prydeinig ar ôl hynny. Dywedodd bod cerdd yn ei gwaed erioed.

“Ro’n i’n mwynhau canu o’r cychwyn cyntaf. Roedd cerddoriaeth Côr Meibion yn y tŷ rownd y rîl hefyd,” meddai.

Yn ogystal ag arwain Côr Meibion Froncysyllte, mae’n Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Menter Cerdd Dinas Llanelwy a Chôr Meibion Glyndŵr. Mae’n bwriadu parhau a’r gwaith gyda Chôr Meibion Glyndŵr.