Mae’r Prif Weinidog wedi croesawu buddsoddiad sy’n golygu bod cerbydau arfog ar gyfer y rhyfel yn Afghanistan yn cael eu haddasu ger Llanelli.
Fe fu Rhodri Morgan yn agor ffatri newydd cwmni Thales UK yng Nghanolfan Fusnes Parc y Strade, Llangennech, lle bydd 30 o weithwyr yn paratoi mwy na 100 o gerbydau ‘Warthog.’
Bydd y cwmni’n gosod systemau cyfathrebu digidol ac yn cryfhau’r cerbydau er mwyn gwrthsefyll ymosodiadau.
“Mae Thales yn un o’r prif gwmnïau technolegol yn y byd ac mae’n siarad cyfrolau bod cwmni o’r radd flaenaf wedi dewis Cymru ar gyfer y prosiect allweddol hwn,” meddai Rhodri Morgan.
“Rwy’n falch iawn o ddweud bod y safle yng Nghymru yn addas, a’i fod yn bodloni pob un o’u gofynion – o weithlu lleol wedi’u hyfforddi’n dda i fod o fewn cyrraedd hawdd i’r rhwydwaith traffyrdd.”
“Cynnal a thrwsio”
Bydd y cyfleuster 200,000 troedfedd sgwâr newydd, sydd ar hen dir y Weinyddiaeth Amddiffyn, hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Thales i drwsio a chynnal a gwella cerbydau sy’n cael eu defnyddio eisoes.
Mae cerbydau milwrol Warthog yn seiliedig ar y cerbyd arfog Bronco a bydd yn cymryd lle cerbydau Viking – sydd wedi eu harfogi’n ysgafnach ac sydd wedi cael eu beirniadu ar ôl nifer o farwolaethau yn ystod y rhyfel.
(Llun: Cerbyd Warthog – gwefan Thales UK)