Mae’r ffasiwn o agor bwyty gastro soffistigedig mewn tafarnau wedi mynd gam ymhellach yn y Cymoedd, gyda siop ddelicatessen yn agor yn nhafarn y Bunch of Grapes ym Mhontypridd.
Pan benderfynodd pen-cogydd Ffrengig y dafarn, Sebastian Vanoni, ddechrau gwneud y sawsiau a’r siytni i fynd gyda’r prydau bwyd cartre’ oedd ar ei fwydlen leol a thymhorol, cafodd ymateb ffafriol dros ben. Ac, felly, fe ddechreuodd eu gwerthu hefyd.
“Mae’n bosib ein bod yn ymddangos yn reit flaengar o ran lansio deli mewn tafarn ond mewn gwirionedd, roedd yn gam naturiol i’w gymryd gan fod cymaint o’n cwsmeriaid wedi bod yn holi ynglŷn â’r cynnyrch cartre’ ar y bwydlenni.
“Fe ddechreuon ni ar raddfa fechan yn gwneud ac yn gwerthu bara a siytni cartre’, ond cyn hir, fe ddaeth y syniad o gyflwyno rhan o’r dafarn i siop ddeli sydd erbyn hyn yn cynnwys caws, ham cartre’, seidrau Gwynt y Ddraig a llawer mwy”.
Siop un stop
Mae’r Bunch of Grapes yn rhan o gwmni bragu lleol Otley, ac mae’r perchennog, Nick Otley, yn esbonio sut y daeth y dafarn yn llwyfan ar gyfer hyrwyddo cynnyrch Cymreig.
“Mae gan y Bunch of Grapes enw da fel tafarn fwyd gan ei bod wastad yn defnyddio’r gorau o gynnyrch lleol , yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael ar y tymor hwnnw, ac roedden ni am ehangu’r cyfle i gwsmeriaid fwynhau’r cynnyrch yma drwy agor y deli”.
“Tra bod rhai yn dod mewn yn unswydd i brynu o’r deli, mae llawer yn taro i mewn ar ôl bod yn yfed neu fwyta yn y bar a’r bwyty – mae pob peth ar garreg y drws felly!”.
Siopa Dolig
Yn gyfleus ar gyfer cyfnod y Nadolig, mae’r deli ar agor bob diwrnod o’r wythnos yn unol ag oriau agor y dafarn – gan agor y drws ar gyfer peint cyflym cyn gwneud peth siopa Dolig.
Meddai Sebastian, “Un o’r pethau sy’n gwerthu fel slecs ar hyn i bryd yw ein saws Butterscotch – sydd hefyd yn plesio fel rhan o Bwdin Taffi Gludiog ar y fwydlen – un o brydau mwya’ poblogaidd y dafarn!
“Fyddwn ni hefyd yn gweithio ar nifer o gynhyrchion newydd yn arbennig i’r deli yn yr wythnosau nesa’.”