Fe fydd trydydd Cymro yn cystadlu yng nghystadleuaeth Prizefighter yn Llundain y mis nesaf.

Mae Barrie Jones yn dod i mewn i lanw bwlch gan ymuno â dau Gymro arall, sef Gavin Rees a Jason Cook, i gystadlu am y wobr £32,000.

Fe fydd wyth bocsiwr yn cystadlu mewn gornestau tair rownd, tair munud yn yr Olympia yn Llundain ar 4 Rhagfyr.


Barrie Jones yn ailddechrau

Fe fydd Barrie Jones yn awyddus i gael i ailgydio yn ei yrfa wedi iddo golli’r cyfle i gipio coron pwysau welter Prydain, ar ôl colli i Kell Brook ym mis Mehefin 2008.

Fe gollodd Jones unwaith eto wedyn i gyn bencampwr y byd, Souleymane M’baye.

Mae safon y bocswyr sy’n cymryd rhan yn Prizefighter ar ei uchaf erioed, gyda Gavin Rees yn gyn bencampwr y byd, a Ted Bami, Colin Lynes a Jason Cook wedi cipio coronau Ewropeaidd yn ystod eu gyrfaoedd.

Fe fydd dau gyn bencampwr Prydeinig hefyd yn cystadlu, sef Young Muttley a David Barnes a dyw’r wythfed, Michael Grant, ddim wedi colli’r un ornest yn ystod ei yrfa.