Mae arweinwyr gwledydd Ewrop yn dod at ei gilydd er mwyn penderfynu pwy fydd Arlywydd ac Uwch Gynrychiolydd cyntaf yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r ddwy swydd yn cael eu creu ar ôl i’r holl wledydd dderbyn Cytundeb Lisbon, a fydd yn dod i rym ar 1 Rhagfyr.

Y nod gyda’r swyddi yw rhoi llais cryfach i’r Undeb Ewropeaidd yn rhyngwladol, ac i hyrwyddo cydweithredu rhwng yr aelodau.

Ffefrynnau

Roedd cyn Brif Weinidog Prydain, Tony Blair, yn geffyl blaen cynnar ar gyfer y swydd, ond bellach, Prif Weinidog Gwlad Belg, Herman Van Rompuy, yw’r ffefryn.

Mae adroddiadau fod Ffrainc a’r Almaen yn mynd i’w gefnogi ef ond bod Llywodraeth Prydain yn cefnogi Tony Blair a dyw hi ddim yn debygol mai Prif Weinidog gwlad Belg fydd dewis cyntaf yr Eidal, Sbaen a’r Wlad Pwyl.

Enwau eraill sy’n cael eu hystyried yw Prif Weinidog yr Iseldiroedd, Jan Peter Balkenende, a chyn arlywydd Latfia, Vaira Vike-Freiberga.

Cyn Brif Weinidog yr Eidal, Massimo D’Alema, yw’r ffefryn i fod yn Uwch Gynrychiolydd tramor, ond mae Ysgrifennydd Tramor Sbaen, Miguel Angel Moratinos a’r Foneddiges Cathy Ashton, Comisiynydd Masnach Prydain, yn enwau eraill sy’n cael eu hystyried.

Roedd Ysgrifennydd Tramor Prydain, David Miliband, yn y ffrâm ar un adeg, ond mae wedi dweud nad yw eisiau’r swydd – y gred yw y bydd eisiau cynnig am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Cydbwysedd

Mae adroddiadau bod yr aelodau yn mynd i geisio canfod cydbwysedd rhwng y swyddi, drwy roi un swydd i gynrychiolodd o un o’r gwledydd mawr, a’r swydd arall i un o’r gwledydd llai.

Yn ogystal â hynny, mae yn bwysau am i ddynes gael un o’r swyddi a dyn y llall, gydag un yn tueddu i’r chwith a’r llall i’r dde.