Mae profion DNA wedi eu cynnal i weld a yw arbenigwyr fforensig wedi darganfod corff newyddiadurwr o Brydain sydd wedi bod ar goll ers mwy nag 20 mlynedd.

Cafodd Alec Collett ei herwgipio gan wrthryfelwyr Palestinaidd yn ystod y rhyfel cartref yn Libanus yn 1985.

Yn ôl adroddiadau, mae’r profion yn cael eu cynnal ar ôl i arbenigwyr o Brydain sydd wedi bod yn chwilio amdano ddarganfod dau gorff yn Nyffryn Bekaa yn y wlad.

Does dim gwybodaeth ynglŷn â phwy allai’r ail gorff fod.

Y cefndir

Cafodd Alec Collett, a oedd yn 64 yn 1985, ei herwgipio tra oedd yn gweithio mewn gwersylloedd ffoaduriaid Palestinaidd yn Beirut. Roedd yn gweithio ar y pryd i Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig.

Yn 1986, fe honnodd cangen filwrol y blaid Balestinaidd Fatah, Abu Nidal, honni eu bod wedi lladd Alec Collett er mwyn dial am ymosodiadau awyr gan yr Unol Daleithiau yn Libya.

Cyhoeddwyd fideo a oedd yn honni ei ddangos yn crogi. Ond roedd yr wyneb wedi cael ei orchuddio, a chafodd y person ddim o’i adnabod yn swyddogol.