Mae poster enfawr sy’n rhan o ymgyrch gan anffyddwyr wedi codi beirniadaeth ym mhrifddinas Cymru.

Yn ôl un cynghorydd lleol, mae’n “beryg i blant” ac yn cyflwyno neges ddigalon.

Mae Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain wedi gosod hysbysebion anferth yn yr Eglwys Newydd Caerdydd ac yng Nghaeredin, Belffast a Llundain gyda’r neges “Let me grow up and choose for myself”.

Mae’r posteri’n dangos plant yn sefyll o flaen y neges, gyda disgrifiadau amdanyn nhw – “Plentyn Catholig, Plentyn Protestannaidd, Plentyn Mwslim, Plentyn Hindŵ a Phlentyn Sikh”.

Yn ôl Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain mae labelu plant “fel pe baen nhw’n perthyn yn gynhenid i grefydd benodol yn rhwystr i ddealltwriaeth plant o’r byd wrth iddyn nhw dyfu.”


‘Digalon’

Er ei bod yn cydnabod bod gan Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain “yr hawl i gyfathrebu neges o’r fath” doedd y cynghorydd, Linda Morgan, sy’n Gristion a Cheidwadwr, ddim yn licio’r syniad, meddai.

“Mae’r byd yn gallu bod yn lle digalon beth bynnag ac mae Cristnogaeth yn dod â ffydd a chysur. Mae pobol yn tyfu i fyny heb ffydd ac mae neges o’r fath yn beryg i blant.

“Yn sylfaenol, Cymdeithas Gristnogol ydan ni yma ym Mhrydain ac mae’n bwysig fod ein plant yn dysgu am y ffydd Gristnogol yn ogystal â chael amlinelliad gredoau crefyddau eraill hefyd.”