Mae’r rhan fwyaf o bobol rhwng 16 a 17 oed sy’n yfed yn gwneud hynny gartref yn bennaf, yn ôl arolwg newydd.

Roedd yr arolwg o 1,000 o bobol ifanc trwy wledydd Prydain yn dangos bod 63% yn gwneud y rhan fwyaf o’u hyfed gartref, a 41% yn dweud eu bod wedi cael alcohol gan eu rhieni.

• Mae tua hanner, 49%, wedi gweld eu rhieni yn feddw, er bod 51% yn dweud eu bod nhw’n gwrando ar eu rheini am beryglon yfed.

• Mae 47% yn yfed bob wythnos, ac mae 60% yn credu bod yfed yn rhan naturiol o gymdeithasu a “bod yn ifanc”.

Dywedodd trefnwyr yr arolwg, yr elusen Drinkaware, bod rhieni yn chwarae rhan allweddol wrth ffurfio agweddau eu plant at alcohol.

“Mae’n gadarnhaol mewn oes ble mae’r cyfryngau yn cael gymaint o effaith ar bobol ifanc, eu bod nhw’n dal i wrando ar eu rhieni,” meddai’r Prif Weithredwr Chris Sorek.

“Mae’n bwysig bod gan rieni’r adnoddau cywir er mwy rhoi cyngor cywir ac ymarferol am effeithiau camddefnydd alcohol.”

Maen nhw wedi lansio adran newydd ar eu gwefan, www.drinkawarae.com/parents http://www.drinkaware.com/parents er mwyn gwneud hynny.