Mae Alun Wyn Bevan yn credu mai’r sgrym fydd man gwan Cymru yn eu gem yn erbyn yr Ariannin dydd Sadwrn.

Mewn llythyr dychmygol at hyfforddwr Cymru, Warren Gatland yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon mae’n feirniadol o berfformiad Cymru yn erbyn Samoa.

“Warren… Ma’ ofan arna i ofyn y cwestiwn nesa’ ‘ma! Be’ chi’n bwriadu ‘neud i’r sgrym cyn y gêm yn erbyn Ariannin ddydd Sadwrn?” gofynnai.

“Fi’n gwb’od yn nêt fod ‘da ni ddietegydd sy’n awgrymu diets addas ar gyfer y mwyafrif ond… fe ddigwyddes i weld copi o diet-sheets Roncero, Scelzo, Ayerza ac Orlandi.

“Ro’dd y cwbwl mewn llythrenne bras : ‘BIFF, BIFF a BIFF’. A gan fod yr Undeb wedi penderfynu ail-neud y ca’, fydd dim gobeth twyllo’r reffari drwy ‘neud iddo feddwl fod pawb yn slipo.”

Galw am Eifion Roberts

“Warren… ma’hawl dewis chwaraewyr i’r Gogledd o Ffochriw,” meddai.

“Galle Eifion Lewis Roberts ‘neud job o waith i chi a beth am Gareth Williams neu Ken Owens fel bachwyr? Horses for courses Mr Gatland!

“Cyn eich bo’ chi’n cysylltu â sniper yng nghyffuniau’r Fro, ga i orffen ar nodyn positif.

“Dw i’n dal i gredu fod yna siawns ‘da ni gyrraedd Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd a dw i’n dal i gredu eich bod chi’n gw’bod eich pethe.

“Ma’ nifer fawr ohonoch chi’r Kiwis yn sensitif i feirniadaeth ond dw i wir yn credu ei bod hi’n amser i chi wrando ar gyngor pobol er’ill achos dy’n ni ddim wedi bod ar ein gore’ oddiar Camp Lawn 2007/08.”


Cewch ddarllen weddill y stori yn Golwg, Tachwedd 19