Cafodd cerflun rhew Cymraes a’i gŵr i gofio ugain mlynedd ers cwymp wal Berlin groeso gwresog ym mhedwar ban byd.
Fe adeiladodd Manon Awst o Gaernarfon a Benjamin Walther, a gafodd ei fagu yn nwyrain yr Almaen, wal rew y tu allan i Lysgenhadaeth yr Almaen yn Llundain i nodi ugain mlynedd ers Cwymp y Wal ar Dachwedd 9.
Roedd yr ymateb i’r cerflun yn “anhygoel”, yn ôl Manon Awst.
“Roedd lot o brojectau’n mynd ymlaen yn Berlin,” meddai’r artist, sy’n gweithio gyda’i gwr o dan yr enw Awst & Walther ac yn byw rhwng Caernarfon a Berlin, “ym mhob llysgenhadaeth ym mhob gwlad. Roedd sylw mawr ar beth oedd yn mynd ymlaen yn Berlin ond yn y papurau, roedd ein project ni yn y ddau, tri ucha’.”
‘Symbol’
Mae’r ddau yn teimlo eu bod wedi taro’r cywair cywir – trwy dynnu sylw at y “pwyntiau iawn.”
“Wnaethon ni ddewis rhew am dri rheswm – yn cyfeirio at y Rhyfel Oer, y political Ice Age, a’r symbol o’r wal ym meddwl y bobol.
“Mae hefyd yn cynrychioli amser, dyw e ddim yn barhaol, a’ch bod chi’n gweld trwyddo fe.”
Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Tachwedd 19