Ers deng mlynedd, mynyddoedd Eryri ym mhen ucha’ Llyn Ogwen yw cartre’r cerddor John Lawrence.

Ond bydd rhai o gerddorion mwya’ cyffrous Cymru yn heidio i Gapel Nant y Benglog. Yma fuodd Yr Ods yn gwneud sesiwn i C2, Nia Morgan yn gwneud albym, ac yn fwy diweddar Yucatan yn gweithio ar albym.

“Mae pobol yn comentio fan hyn bod y cynhyrchu’n really dda, y sŵn yn really dda,” meddai John Lawrence, a fuodd yn aelod o’r grwp y Gorkys’ Zygotic Mynci tan 1999. “Mae hynna’n neis.”

“Pan wnes i gychwyn yr albym oedd y stiwdio reit newydd, ac mae fy techniques i wedi datblygu dros gyfnod yr albym.

“Os yw’r miwisg yn dod, o leia’ mae’n dod drwof i, ac mae cyfrifoldeb i wario amser yn ei wneud o. Rhywbeth meditative yw creu miwsig. Cloi dy hun i ffwrdd am wythnosau…”

Bywyd ar ôl y Gorkys

“Dw i ddim wedi bod yn uchelgeisiol iawn ers gadael y Gorkys. Mwy yn ddiweddar dw i wedi sylwi dw i eisie gwneud mwy o miwsig.”

Y llun ar glawr ei albym Rainy Nights – ryw seren lwyd a glas (dde) – yw’r patrwm sydd i’w weld wrth syllu i do ei babell, lle bydd yn cynnal ei gigs ei hun weithie.

Dyw e ddim yn gallu gwahanu ei waith rhag ei waith gyda’r Gorkys, meddai, er bod y cyffro’r cyfnod fel byd arall.

“Falle bod be’ dw i’n gwneud rwan yn debyg i beth o’n i’n gwneud da Gorkys,” meddai, “ond rwan dw i’n datblygu’r pethe yna. Yn amlwg, gyda Gorkys, Euros oedd yn gwneud y rhan fwya’ o’r cyfansoddi.

“Oedd e’n dda, oedd e’n exciting, aethon ni dros y byd, gwario lot o amser mewn recording studios pobol enwog, Phil Collins, Peter Gabriel…”

Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Tachwedd 19