Cyd-ddigwyddiad llwyr yw’r ffaith bod Caryl Lewis yn disgwyl babi ar union yr un pryd ag y mae hi’n cyhoeddi ei nofel newydd.
A chyd-ddigwyddiad rhyfeddach byth yw mai Naw Mis yw teitl y nofel.
Ond nid cyfeirio at y cyfnod y mae darpar-fam yn feichiog y mae’r teitl. Daeth y syniad am y nofel ar ôl i Caryl Lewis siarad gyda ffrind a oedd wedi mynd at gwnsler i ddygymod â phrofedigaeth.
Dywedodd hwnnw wrth ei ffrind ei bod hi’n cymryd naw mis i rywun ddygymod â phrofedigaeth.
“Mae hi’n nofel am ddod i dermau â phethau a newid,” meddai Caryl Lewis. “Ond dyw hi ddim yn nofel dywyll. Mae diwedd hon yn fwy positif na sawl un o fy nofelau.”
Yr “her” sy’n bwysig i Caryl Lewis, sydd wedi sgrifennu sawl math o lyfrau yn y gorffennol – fel y nofel ysgafn am ferched yn tynnu rhaff, Dal Hi!, i’r clasur o stori wledig, Martha Jac a Sianco.
“Dw i’n meddwl chi’n dysgu trwy’r amser,” meddai, “ac yn magu hyder i daclo pethe. Y mwya’ o bethe rwy’n eu gwneud y mwya’ dw i’n ei fwynhau. Chi’n defnyddio eich sgiliau wedyn.”
Cewch ddarllen weddill y stori yn Golwg, Tachwedd 19