Mae arlywydd Afghanistan yn dweud y bydd yn erlyn swyddogion llwgr yn ei lywodraeth, ac y bydd milwyr o dramor yn gallu gadael ymhen pum mlynedd.

Daeth sylwadau Hamid Karzai wrth iddo gael ei ail urddo’n swyddogol yn arlywydd ei wlad am ail dymor o bum mlynedd.

Mae wedi bod o dan bwysau rhyngwladol i wella enw da’r llywodraeth, yn enwedig ar ôl ennill grym mewn etholiad llawn twyll.

Llygredd gwleidyddol

Dywedodd y bydd cynhadledd yn digwydd yn fuan yn Kabul i drafod sut i fynd i’r afael â llygredd gwleidyddol.

“Mae llygredd yn elyn peryglus iawn i’r wladwriaeth,” meddai. Dywedodd y byddai’n dewis “gweinidogion sy’n arbenigwyr”, ac yn gallu rhoi arweinyddiaeth gymwys.

Yn ogystal, dywedodd ei fod yn gwasanaethu pawb yn Afghanistan, “o bob tras, llwyth, ac o bob lle a phob talaith”.

Gwahoddodd yr ymgeiswyr eraill yn yr etholiad arlywyddol i gyfrannu at y Llywodraeth.


Newidiadau

Dywedodd Hamid Karzai bod ei lywodraeth yn gwneud newidiadau “cymdeithasol, cyfreithiol a gweinyddol”, ac y bydd lluoedd arfog Afghanistan yn gallu cymryd gofal am ddiogelwch y wlad o fewn tymor ei arlywyddiaeth.

Dywedodd hefyd ei fod yn credu y bydd y “broblem o derfysgaeth ryngwladol” yn Afghanistan yn cael ei datrys ac y bydd ei lywodraeth yn cymryd y frwydr yn erbyn smyglo cyffuriau o ddifrif.

Roedd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton, Arlywydd Pacistan, Asif Ali Zardari, ac Ysgrifennydd Tramor Prydain, David Miliband, yn gwrando ar yr araith.