Mae ymgyrchwraig o Gymru wedi condemnio penderfyniad y Gwasanaeth Iechyd i beidio â chynnig cyffur newydd i bobol sydd â chanser yr iau neu’r afu.

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol, NICE, wedi dweud heddiw bod y cyffur gan y cwmni fferyllol Bayer yn “rhy ddrud” gan gostio £36,000 y flwyddyn i bob claf.

“Pryd mae’r Llywodraeth am ddeffro a sylwi mae clinigwyr ddylai benderfynu ar ein triniaethau, nid cyfrifwyr ac ystadegwyr?” meddai Kate Spall.

Ar ôl ymgyrchu hir, roedd hi wedi llwyddo i sicrhau deufis o’r driniaeth i’w mam, Pamela Northcott, a fu farw yn 2007, er bod ei hymddiriedolaeth iechyd leol wedi gwrthod y cyffur.

Aeth yn ei blaen i ffurfio’r elusen Pamela Northcott Fund ac roedd hi’n feirniadol o’r penderfyniad i beidio â chynnig y cyffur ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Rydw i’n rhoi fy nghalon i mewn i’r gwaith o sicrhau nad oes rhaid i’r un claf canser fynd drwy’r uffern y gwnaeth hi ei ddioddef ac rydw i wedi ennill achosion dros 250 o gleifion.

“Er gwaetha’r newyddion erchyll yma, fe fyddai’n parhau i frwydro yn enw fy mam dros gleifion canser fel nad oes rhaid iddyn nhw dreulio misoedd olaf eu bywydau yn brwydro.”


“Sgandal”

Mae elusennau canser yn dweud fod gwrthod yr unig gyffur a allai ymestyn bywyd cleifion gyda chanser angheuol yn “sgandal.”

Dyw’r cyffur sorafenib ddim yn iachau’r claf ond mae ganddo’r potensial i ymestyn bywyd y claf tua chwe mis a gwella ansawdd y bywyd hwnnw.

Roedd Bayer wedi cynnig rhoi un o bob pedwar pecyn o’r cyffur am ddim ac maen nhw’n bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad y Gwasanaeth Iechyd.

Mae mwy na 3,200 o bobol yn marw o ganser yr iau bob blwyddyn. Dim ond 20% o gleifion sy’n fyw ar ôl un flwyddyn a dim ond 5% ar ôl pum mlynedd.

Y penderfyniad a’r ymateb

“Rydym ni’n siomedig nad ydym ni’n gallu awgrymu defnyddio Sorafenib. Ond, ar ôl ystyried y sefyllfa’n ddwys, rydym ni wedi dod i’r canlyniad nad yw’n cynnig digon o fudd i gleifion i gyfiawnhau ei gost uchel,” – Andrew Dillon, Prif Weithredwr Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol.

“Rydym ni’n hynod siomedig bod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol wedi penderfynu peidio ag argymell y driniaeth i bobl â chanser yr iau. Mae’n amser ailfeddwl y modd y mae cyffuriau cancr yn cael eu hasesu a hynny er mwyn sicrhau tegwch i bobl sy’n dioddef o’r afiechyd,” – Mike Hobday, pennaeth ymgyrchoedd Cefnogaeth Canser Macmillan.