Mae Heddlu Gwent yn gofyn am wybodaeth ar ôl i ferch 12 oed gael ei tharo gan gar.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y ferch a char VW Bora du am tua 8.12pm neithiwr ar yr A48 ger Pont Gludo Casnewydd.
Roedd y car yn teithio tuag at Stryd Spytty pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Cafodd y ferch ei hanafu’n ddrwg ac mae hi mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Frenchey ger Bryste.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth alw Heddlu Gwent ar 01633 838111 neu’r Adran Ymchwilio Gwrthdrawiadau ar 01633 642404.