Ar ôl treulio ugain mlynedd yn bensaer gyda Chyngor y Preseli yn Sir Benfro, mae Aled Prichard-Jones yn gwireddu breuddwyd bore oes wrth droi at baentio.
“Dw i’n cofio fel hogyn bach yn y Capel.” meddai am ei blentyndod ym Mangor.
“Dweud adnod, a’r pregethwr yn gofyn, be’ wyt ti eisio bod pan fyddi di’n hŷn? Artist oedd fy ateb i.”
Ond llwybr gwahanol iawn a ddilynodd gan raddio mewn pensaernïaeth yng Nghaerfaddon a magu teulu yn Sir Benfro.
Dyw e ddim yn ystyried bod cysylltiad rhwng ei yrfa a’r darlunio, heblaw ei fod wedi arfer torri pensil ar fwrdd dylunio.
Ond erbyn hyn mae ei dirluniau yn gwerthu am £1500 yr un.
‘Wedi gwerthu’
“Roedd hi’n syndod i mi,” meddai’r arlunydd a symudodd i Ynys Môn yn 2000 ac sy’n byw yng Nghoed Anna ger Llannerchymedd.
“Mynd â gwaith i galerïau a theimlo’n reit bryderus. Ond dw i’n mynd nôl mewn mis ac maen nhw wedi’u gwerthu.”
Ar gyfer ei arddangosfa newydd yn Oriel y Bont, Aberystwyth, mae wedi troi at luniau o’r glannau rhwng Aberaeron ac Aberdyfi.
“Dw i’n teimlo bod pobol wrth eu bodd yn nabod lle,” meddai Alun Prichard-Jones.
“Wedi bod yna’u hunan, yn nabod awyrgylch y lle ac eisiau ryw fath o gof am Gymry, ac yn prynu un sy’n eu hatgoffa o ryw brofiad. Dw i’n teimlo’n falch. Mae’n fraint bod pobol yn eu prynu.”
Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Tachwedd 19
(Llun: Tryfan gan Aled Prichard-Jones)