Yn 2003 roedd Mark Aizlewood yn sefyll ar bont yn Rhufain yn meddwl am neidio’r 150 troedfedd i’r draffordd brysur oddi tano.
Roedd wedi bod yn ffraeo gyda’i wraig Penny ar ôl yfed heb stop am wythnos gyfan, ac yn ystyried pa mor braf fyddai neidio a chael gwared ar ei ofidiau.
Ond ar ei awr dywyllaf mi glywodd gorn car a gweld Fiat Punto gyda baner Cymru yn chwifio o’i ffenestr. (Roedd tîm rygbi Cymru wedi colli i’r Eidalwyr yn Rhufain y pnawn hwnnw).
Mae’n dweud mai ychydig iawn o bobol sy’n gwybod am y gwir tu ôl i’r cythrwfwl, a dyma pam ei fod yn awyddus i sgwennu’r hunangofiant.
‘Bywyd bendigedig’
“Dw i ddim eisiau i neb ddarllen y llyfr a theimlo piti drosta’ i,” meddai Mark Aizlewood.
“Dw i wedi cael bywyd bendigedig. Roeddwn i’n chwaraewr pêl-droed proffesiynol, wedyn yn byndit pêl-droed ar gyflog da, ac fe ges i swydd bwysig gyda’r Gymdeithas Bêl-droed. O’r tu allan roedd yn edrych fel petae gen i’r bywyd perffaith.
“Petawn i wedi neidio [yn Rhufain yn 2003] fydda pobol wedi gofyn: ‘Pam wnaeth o hynny?’ Roeddwn i am roi’r darlun llawn i bobol.”
Mae Mark Aizlewood yn gobeithio na fydd ei lyfr yn cael ei weld fel llyfr arall gan gyn-bêl-droediwr diflas sy’n ceisio gwneud dipyn o arian.
*Amddiffyn fy hun, Gomer, £7.99
Cewch ddarllen mwy yn Golwg, Tachwedd 19