Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi ymddiheuro dros gynghorydd o Fôn a gafodd ei ddal ar gamera CCTV yn gwneud dŵr y tu ôl i dafarn ar yr Ynys.

Yr wythnos ddiwetha’ roedd Golwg yn sôn am y cynghorydd Aled Morris Jones, a gafodd ei ffilmio yn gadael tafarn y Ring yn Rhosgoch ger Amlwch, yn siarad ar ffôn symudol cyn piso ar y lôn sy’n arwain at dŷ preifat.

“Rwyf wedi trafod y mater gydag Aled Morris Jones, ac mae’n edifar iawn ac wedi ymddiheuro’n llwyr am ei ymddygiad ac mae wedi fy sicrhau na fydd yn gwneud hyn eto,” meddai Kirsty Williams.

Yn dilyn ymddiheuriad Kirsty Williams, mi ffoniodd Golwg y cynghorydd Aled Morris Jones sy’n cynrychioli ward Llaneilian ar Gyngor Môn, a dyma’r oedd yn fodlon dweud yn gyhoeddus am y mater.

“Dw i yn ymddiheuro. Cefais fy nal yn fyr ar y ffôn, a dw i yn ymddiheuro am unrhyw loes dw i wedi rhoid i unrhywun, sydd yn cynnwys Mr O’Neill wrth gwrs.”


Dal ddim yn hapus

Ond mae’r dyn ffilmiodd ei gynghorydd lleol yn dal yn anhapus gydag ymateb yr heddlu a’r cynghorydd ei hun.

“Ddyla fo ymddiheuro i fi a fy ngwraig, nid i Kirsty Williams,” meddai Martin O’Neil.

Mae Martin O’Neill hefyd yn cwyno am fethiant Heddlu Gogledd Cymru i erlyn y rhai sydd wedi eu ffilmio yn piso ar y lôn.


Cewch ddarllen weddill y stori yn Golwg, Tachwedd 19