Mae un o wleidyddion mwya’ profiadol y Blaid Lafur wedi cadarnhau ei fod yn awyddus i sefyll dros y blaid yn etholaeth Arfon yng Ngwynedd.
Yr wythnos hon datgelodd Alun Pugh wrth Golwg ei fod yn y ras i gael ei ddewis yn ymgeisydd seneddol dros Lafur yn Arfon yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Bydd y blaid yn lleol yn dewis olynydd i’r ymgeisydd blaenorol Martin Eaglestone a roddodd y gorau iddi eleni ar ôl rhai blynyddoedd aflwyddiannus, ddechrau Rhagfyr.
Yr enwau eraill ar y rhestr yw Chris Bain o Firmingham, Alwyn Humphreys o ochrau Wrecsam a Paul Scott o Waunfawr.
Roedd Alun Pugh yn Weinidog Diwylliant yn Llywodraeth Cynulliad Rhodri Morgan hyd nes iddo golli’i sedd yn y Cynulliad dros Orllewin Clwyd yn 2007.
Datganoli, ysgolion a codiadau cyflog
“Wrth sôn am ddatganoli baswn i’n hapus i rannu’r un platfform â Hywel – dw i’n gryf o blaid datganoli a dros gwffio’r achos am bwerau deddfu i’r Cynulliad,” meddai Alun Pugh, sy’n rhwsytredig gyda’r drefn araf o roi hawl i’r Cynulliad ddeddfu.
Dywedodd bod penderfyniad diweddar mwyafrif o gynghorwyr Gwynedd i roi codiadau cyflog bras i uwch swyddogion wedi cynddeiriogi etholwyr Arfon.
Mae hefyd yn credu bod rhieni wedi eu “digio gan ymddygiad llawdrwm” y cyngor dros gau ysgolion.
Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Tachwedd 19