Mae dwy o brifysgolion Cymru wedi derbyn gwobrau pwysig am waith yn troi ymchwil yn gynlluniau go iawn – ym maes planhigion a phobol.

Fe gyhoeddwyd neithiwr y bydd Prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd ymhlith enillwyr Gwobrau Addysg Uwch a Phellach y Frenhines.

Planhigion gwell

Yn Aberystwyth, mae’r wobr yn mynd i ganolfan IBERS – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig – am waith yn datblygu mathau newydd o blanhigion.

Mae’r rheiny’n cael eu defnyddio i geisio datrys rhai o broblemau mawr y byd – gan gynnwys sicrwydd ynni, bwyd a dŵr a newid hinsawdd.

Mae’r planhigion yn cynnwys mathau sy’n gallu gwrthsefyll eithafion tywydd, rhai sy’n fwy cynhyrchiol a gweiriau sy’n haws eu treulio ac felly’n arwain at lai o fethan gan wartheg.

Llai o anafiadau

Yng Nghaerdydd, mae’r wobr yn gydnabyddiaeth o waith yn atal trais ac anafiadau hwyr-y-nos mewn dinasoedd.

Mae’n mynd i Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas sydd wedi bod yn cydweithio gyda Phartneriaethau Gostwng Troseddau ers 1996.

Fe fydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno ym mis Chwefror.